Mae Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant Cyngor Caerdydd am glywed barn y cyhoedd ar y ffordd mae Canolfannau Hamdden yn cael eu rheoli'n y ddinas.
I nodi deuddeg mis ers i Greenwich Leisure Limited (GLL) ddechrau rhaglen 15 mlynedd i redeg 8 Canolfan Hamdden yng Nghaerdydd, bydd y Pwyllgor yn rheoli cynnydd yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.
Mae menter gymdeithasol GLL yn sefydliad dielw sy'n gyfrifol am redeg y cyfleusterau canlynol:
Canolfan Hamdden Llanisien
Canolfan Hamdden y Gorllewin
Canolfan Hamdden y Tyllgoed
Canolfan Hamdden y Gorllewin
Canolfan Hamdden Pentwyn
Canolfan hamdden Maendy
Canolfan STAR, Sblot
Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan
Meddai Cadeirydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant, y Cyng. Nigel Howells: "I nodi blwyddyn ers dechrau partneriaeth y Cyngor â Greenwich Leisure Limited mae fy Mhwyllgor a minnau am asesu sut aeth pethau'n ystod y flwyddyn. Does ffordd well o wneud hyn na gofyn i'r rhai sy'n defnyddio ein Canolfannau Hamdden yn rheolaidd amlinellu harsylwadau. Felly hoffwn ofyn i unigolion a grwpiau sy'n defnyddio'r canolfannau dan reolaeth GLL i fy e-bostio'n uniongyrchol â'u barn fel y gallaf ei chyfleu i'r Pwyllgor. Yr e-bost gorau i'w ddefnyddio i gysylltu â mi yw:NHowells@caerdydd.gov.uk."
Mae Aelodau Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn cwrdd i drafod yr eitem hon ddydd Iau 7 Rhagfyr am 4:30pm a chaiff rhan o'r cyfarfod hwn ei we-ddarlledu'n fyw. Rhoddir manylion pellach ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd yn agosach at ddyddiad y cyfarfod.