The essential journalist news source
Back
28.
November
2017.
150 rheswm y mae Caerdydd yn mynd yn wyrddach fyth!
Mae Caerdydd yn mynd yn wyrddach fyth, diolch i’r 150 coeden newydd sy’n cael eu plannu yn strydoedd a pharciau’r ddinas.

Caiff y coed cyntaf eu plannu’r wythnos hon, i gyd-fynd ag Wythnos Plannu Coed Genedlaethol a dechrau’r tymor plannu coed gaeaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Mae tystiolaeth bod coed yn dod ag ystod o fuddion i iechyd pobl a’u lles yn gyffredinol, felly mae’n bleser gallu cychwyn ein rhaglen plannu coed trwy blannu’r goeden gyntaf o lawer a fydd yn gwreiddio yng ngorllewin y ddinas dros yr wythnosau nesaf."

Mae rhaglen blannu eleni'n derbyn cefnogaeth project To Coed Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, Trees for Cities ac aelodau’r cyhoedd yn ariannu coed coffáu er cof eu hanwyliaid.