The essential journalist news source
Back
28.
November
2017.
Cyngor Teithio adeg gêm Cymru yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality
 Bydd Cymru yn herio De Affrica yn Stadiwm Principality Ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr a chynghorir pawb sydd yn dod i wylio'r gêm adael digon o amser i gael i mewn i'r stadiwm yn dilyn y camau diogelwch mwy trylwyr.

Ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr bydd ffyrdd canol y ddinas yng Nghaerdydd yn cau rhwng 11.00am a 5.30pm.

Gyda disgwyl i ganol y ddinas fod yn brysur iawn Ddydd Sadwrn, cynghorir pawb sydd yn ymweld â Chaerdydd i gynllunio ymlaen llaw ac i gyrraedd Cymru a Chaerdydd mewn digon o amser.

Cynghorir y rheiny fydd yn cyrraedd mewn car i gadw lle yn y lleoliad Parcio a Theithio drwy ddilyn y ddolen hon - https://www.parkjockey.com/principality-stadium

Bydd Cyngor Caerdydd yn agor y ffyrdd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny ar ôl y digwyddiad. Fel arfer bydd hynny'n digwydd awr ar ôl i'r gêm ddod i ben.

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau o 11.00am ymlaen:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).

  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).

  • Heol Saunders o'i gyffordd â Heol Eglwys Fair.

  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).

  • Heol Penarth o'i gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

  • Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Gerddi'r Orsedd.

O 2.30pm tan i'r ciwiau am drenau leihau, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau i draffig am 3.15pm ar y cynharaf. Bydd modd i geir adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.


Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd fydd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd cyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bod y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos fod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud..

Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio a Theithio

Ceir - Mae mynediad at y safle parcio a theithio oddi ar gyffordd 33 yr M4

Safle Parcio a Theithio Lecwydd.

Man gollwng: Tresilian Way tua'r Gogledd (y tu ôl i'r orsaf drenau)

Pellter o ganol y ddinas: 1.5 milltir (10 i 15 mun)

Cost: £10 neu £8 os byddwch yn archebu ymlaen llaw

I archebu eich tocyn parcio a theithio ymlaen llaw,cliciwch arhttps://www.parkjockey.com/principality-stadium

Os byddwch yn archebu eich man parcio a theithio ymlaen llaw, argraffwch y cadarnhad archebu ymlaen llaw a'i ddangos i staff pan fyddwch yn cyrraedd.

Trenau

Mae Network Rail a Great WesternRailwayyn cynghori cwsmeriaid y bydd gwaith yn digwydd ar y rheilffordd rhwng Swindon a Didcot Parkway ar ddyddSadwrn 2 Rhagfyr, sy'n golygu y bydd siwrneiau o Lundain yn cymryd oddeutu awr yn hirach na'r arfer. Wrth adael Llundain Paddington, ar ôl stopio yn Reading, bydd trenau cyflym yn stopio yn Chippenham, Swindon, Parkway Bryste, Casnewydd ac yna Caerdydd Canolog.

Bydd trenau ychwanegol yn rhedeg, gan gynnwys o leiaf un trên cyflym i'r naill gyfeiriad yn ogystal â'r gwasanaethau arferol, ond mae Great Western Railway yn cynghori cwsmeriaid i deithio'n gynt ac i adael digon o amser i gael i ac o Gaerdydd.

Mae Trenau Arriva Cymruyn cynghori cwsmeriaid sy'n mynd i'r gêm deithio ar y gwasanaeth cyntaf posibl i Gaerdydd gan y bydd y gwasanaeth yn brysur iawn drwy'r dydd.

Gofynnir i gwsmeriaid brynu eu tocyn cyn mynd ar y trên a phrynu tocyn ar gyfer y daith yn ôl os ydynt yn bwriadu teithio yn ôl ar y trên.

Bydd rhagor o gapasiti yn ei ychwanegu at y gwasanaethau presennol cyn belled â phosib a gofynnir i gwsmeriaid gadarnhau amser y trên olaf sydd ar gael iddynt.

Ar ôl y gêm, bydd rhaid i gwsmeriaid gwasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.

Bydd systemau ciwio ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog (ar gyfer y prif lwybrau) ac yng Ngorsaf Heol Heol-y-Frenhines Caerdydd (ar gyfer gwasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd). Edrychwch ar y cynllun ciwio atodedig i gael y manylion llawn o ran ba lwybrau a wasanaethir gan bob gorsaf.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Soffia (ceir)

Ni all faniau gwersylla barcio ym maes parcio Gerddi Sophia. Dylai'r rheini sydd am barcio ac aros mewn faniau gwersylla barcio yn y Ganolfan Ddinesig neu'r Parc Carfannau.

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm y Principality, Gât 2).

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos

Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 18.30pm, gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Caiff unrhyw gerbydau gaiff eu gadael yn y maes parcio wedi'r amser cau ddirwy.

Canolfan Ddinesig (ceir, bysiau mini a bysiau)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4, anelu tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Mae'r maes parcio yn agor am 8am, gyda staff yn bresennol o 7.30am ymlaen. Rhaid i bob car gael ei symud oddi yno, neu fod â thocyn talu ac arddangos ar y cerbyd erbyn 8.00am ar fore Sul 19 Tachwedd.

I archebu man parcio ymlaen llaw, cliciwch: https://www.parkjockey.com/principality-stadium(ceir yn unig).

Parcio Digwyddiad Canolfan Ddinesig (bysiau a bysiau mini)

Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio Siopa

Cynghorir siopwyr i ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol a neilltuwyd ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.

Neu mae'r meysydd parcio yng nghanol y dref hefyd ar gael:

Meysydd Parcio Heol y Gogledd

Canolfan Siopa Dewi Sant

John Lewis

Canolfan Siopa Capitol

NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion

Parcio i'r Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae Parcio i'r Anabl ar gael hefyd mewn amryw feysydd parcio preifat. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Tacsis - bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau rhwng 11.00am a 5.30pm.
 
Bysiau

Bysiau lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio allan o arosfannau bws Caerdydd Canolog. Yn lle mynd i'r mannau gadael ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill i adael tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion i adael am y t gogledd neu Tudor Street i adael tua'r gorllewin.  

Bydd bysiau nos hefyd ar gael gan Fws Caerdydd tan 3.30am ar lwybrau Trelái, Draenen Pen-y-graig, Llaneirwg a Phontprennau.
 
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.