The essential journalist news source
Back
28.
November
2017.
Dysgu am hanes Parc Bute yn Amgueddfa Stori Caerdydd
Bydd arddangosfa newydd ar hanes Parc Bute yn agor yn Amgueddfa Stori Caerdydd ar 2 Rhagfyr.

Bydd arddangosfa ‘Y Straeon a Adroddent’ yn cyflwyno hanes y parc canol dinas drwy lygaid coeden gastan a arferai fod yn y parc am dros ganrif nes ei cholli i storm ym mis Ionawr eleni.

Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers:  “Does dim llawer o bobl yng Nghaerdydd heb stori am Barc Bute, ond dychmygwch yr hyn allasai coeden a fu yno ers dros ganrif ei ddweud wrthym pe gallai siarad.

“O ben-blwydd Pedwerydd Ardalydd Bute yn 21ain oed i Eisteddfod Genedlaethol 1978, a’r project adfer mwy diweddar, gwelsai’r goeden hon y cyfan yn ystod ei 132 mlynedd, ac rydym wrthi’n cydblethu'r straeon hyn nas clywsom o’r blaen gyda’r cylchoedd sy’n nhrawstoriad ei bonyn, sydd wrth wraidd yr arddangofa.”

Hefyd yn yr arddangosfa bydd cerdd newydd a luniwyd gan Awdur Ieuenctid Cymru Sophie McKeand, a bydd llinellau ohoni ar breswylydd diweddaraf Parc Bute, polyn Siarter Coed a ddatgelwyd dros y penwythnos sy’n mawrygu pwysigrwydd coed i ddiwylliant a llenyddiaeth.  Mae’r gerdd yn seiliedig ar straeon a gasglwyd gan ymwelwyr â’r parc yn ystod cyfres o weithdai a gynhaliwyd ym Mharc Bute.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Parc Bute yw calon werdd Caerdydd a chanddo le arbennig yng nghalonnau trigolion y ddinas ac ymwelwyr â hi.  O ystyried pwysigrwydd cenedlaethol casgliad coed y parc, nid yw ond yw weddus i’r arddangosfa hon wyrdroi colled trist un o’r coed yn safbwynt unigryw ar hanes y parc.

“Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth allaf i gynnal godidowgrwydd parc Caerdydd yn wyneb toriadau i’n cyllidebau ond bydd arddangosfeydd fel hon yn helpu i warchod y coed ymhell wedi fy nghyfnod i, drwy gynorthwyo ymwelwyr â’r amgueddfa i ddeall pwysigrwydd eu lle yn ein hanes ninnau oll.” 

Mae’r arddangosfa am ddim hon yn rhan o broject ehangach a gefnogir gan Coed Cadw i wrando'n fwy astud ar ein coed ac i ddatgelu’r hanesion y bydden nhw’n eu hadrodd.

Mae Amgueddfa Stori Caerdydd ar agor bob dydd o 10am i 4pm a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 25 Chwefror 2018.


 Llun gan:  Mount Stuart House Trust