The essential journalist news source
Back
24.
November
2017.
Ticketline UK

Yn dilyn y newyddion fod Ticketline UK wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, hoffem roi sicrwydd i gwsmeriaid sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer Groto Siôn Corn yng Nghastell Caerdydd a lansiad Gŵyl Llên Plant Caerdydd gyda Syr Chris Hoy ar 12 Rhagfyr drwy Ticketline UK y bydd y Cyngor yn derbyn unrhyw e-docynnau y talwyd amdanynt.

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid sydd wedi prynu tocynnau i Groto Siôn Corn argraffu eu tocynnau, neu gadarnhad e-bost, ac i ddod â'r rhain gyda nhw ar ddiwrnod yr ymweliad. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.castell-caerdydd.com/digwyddiadau/2017/11/25/grotto-sion-corn/?force=2.

Os ydych wedi prynu tocynnau ar gyfer lansiad Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn Neuadd y Ddinas, gofynnwn i chi e-bostio eich cadarnhad i digwyddiadau@caerdydd.gov.uk. Bydd hyn yn dangos i ni faint o docynnau sydd wedi'u prynu ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae eich tocynnau yn ddilys - argraffwch eich tocyn neu gadarnhad e-bost a dewch â nhw i'r digwyddiad.

Mae'r tocynnau ar gyfer Groto Siôn Corn wedi gwerthu mas. Gall unrhyw un sydd am brynu tocyn ar gyfer lansiad yr Ŵyl Llên Plant wneud hynny yn www.ticketsource.co.uk/kidslitfestFfôn:0333 666 3366