The essential journalist news source
Back
10.
November
2017.
Dulliau newydd o helpu pobl i mewn i waith

Mae'r ymagwedd newydd yn cynnwys porth syml i wasanaethau cyflogaeth, ar gael mewn hybiau cymunedol, llyfrgelloedd ac adeiladau cymunedol a hefyd mentora dwys a chymorth i helpu pobl i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n eu hatal rhag dychwelyd i fyd gwaith. Bydd ymgysylltu effeithiol â chyflogwyr hefyd yn rhan o'r gwasanaeth i ganolbwyntio ar ddeall anghenion cyflogwyr, yn lleol ac yn genedlaethol, fel y gall pobl fod yn barod ar gyfer cyfleoedd gwaith gwirioneddol.

Byddai cyngor a chymorth hefyd ar gael i bobl sy'n chwilio i sefydlu eu busnesau eu hunain neu fentrau cymdeithasol i helpu i ddatblygu diwylliant o fentro mewn unigolion a chymunedau.

Mae'r cynlluniau presennol sydd ar gael wedi gosod meini prawf cymhwyso ac yn aml bydd pobl yn colli allan am nad ydynt yn byw yn yr ardal iawn neu o'r oed iawn. Mae pobl hefyd yn colli allan am nad ydynt yn ymwybodol o'r help sydd ar gael.

Bydd y Cyngor yn dwyn ynghyd wahanol ffrydiau cyllido i ddatblygu gwasanaeth cyd-gysylltiedig ac i sicrhau y gall pobl gyrchu'r gwasanaeth sydd yn iawn iddynt hwy, lle bynnag yn y ddinas y byddont yn byw.

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu'r rhaglen Cymunedau Yn Gyntaf yn raddol ac i ymgymryd â dull newydd o fynd i'r afael â thlodi ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar gyflogaeth, blynyddoedd cynnar ac ymrymuso, mae rhywfaint o arian ar gael, er lawer yn llai na chynt, i gynnig gwasanaethau cyflogaeth ac i adeiladu cymunedau mwy gwydn.

Yn ei gyfarfod nesaf ar Ddydd Iau 16 Tachwedd, bydd y Cabinet yn clywed y cafwyd cefnogaeth eang i'r cynigion yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar gydag 82% o ymatebwyr yn cytuno y dylai'r Cyngor gynnig a chydlynu'n uniongyrchol wasanaeth cyflogaeth a bod 92% yn ffafrio cyflwyno porth syml i wasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Does dim llwybr clir ar gael i wasanaethau cyflogaeth yn y ddinas ac mae'n amlwg nad yw'r drefn bresennol yn ateb anghenion pawb sydd ag angen cymorth.

"Mae dirwyn rhaglen Cymunedau'n Gyntaf i ben yn raddol yn rhoi cyfle i ail-werthuso gwasanaethau cyflogaeth Caerdydd er mwyn sicrhau ein bod yn cael y canlyniad gorau posib i bobl sydd ag angen y gwasanaethau hyn gyda'r adnoddau sydd ar gael.

"Bydd y gwasanaeth newydd, a fydd yn gweithredu'n llawn erbyn mis Ebrill nesaf, yn cynnig llwybr llawer cliriach i unigolion, yn osgoi dyblygu ac yn rhoi cyfle i fesur llwyddiant y gwasanaeth yn fwy trylwyr."

Cafodd effaith cau Cymunedau'n Gyntaf ac unrhyw fylchau mewn gwasanaethau hefyd eu hystyried yn yr ymgynghoriad diweddar yn ogystal â sut y gellid gwella ar ymwneud ac ymgysylltiad cymunedol.

Mae'r angen am wasanaethau newydd wedi ei nodi gan ganolbwyntio ar Iechyd a Llesiant, datblygu llwybrau dysgu a chefnogi ymgysylltiad cymunedol. Cynigir fod adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol ac ymgynghori pellach yn mynd rhagddo ar yr elfennau hyn yn y rhaglen Adeiladu Cymunedau Gwydn gydag adroddiad pellach i Gabinet y Cyngor yn y Gwanwyn