The essential journalist news source
Back
8.
November
2017.
Syr Chris Hoy MBE yn lansio Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2018; Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 6.30pm

Bydd athletwr Olympaidd mwyaf llwyddiannus tîm Prydain Fawr, Chris Hoy, ei gyd-awdur sydd wedi ennill gwobrau, Joanna Nadin, a'r darluniwr, Clare Elsom, yn mynd â chi ar antur feicio llawn hwyl a hud ym myd cyfareddol Flying Fergus drwy waith tîm, creadigrwydd a llawer o gyffro.

Bydd y digwyddiad yn nodi lansiad rhaglen Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2018. Yn yr Ŵyl, sy'n ymestyn dros bythefnos rhwng 21-29 Ebrill, fe ddathlir llyfrau cyfoes gorau i blant a bydd digwyddiadau Saesneg a Chymraeg.

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y lansiad am £5 gan TicketLineUk. Ffoniwch 029 20 230130 i archebu.

CafoddFlying Fergusei gyhoeddi ar 16 Tachwedd ac mae'nyn gyfres llawn anturiaethau beicio Fergus Hamilton, sy'n 9 oed, a'i ffrindiau wrth iddo deithio i fydysawd paralel o'r enw Nevermore, lle mae beicio wedi'i wahardd a lle y mae brenin drygioni Woebegot wedi carcharu ei dad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r digwyddiad hwn, a gynhelir am y chweched flwyddyn yn olynol, yn mynd o nerth i nerth gan gyfareddu darllenwyr ifainc o Gaerdydd a thu hwnt.

"Mae rhywbeth yn y rhaglen amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau dros bythefnos yr ŵyl i ysbrydoli plant o bob oedran ac i ennyn eu diddordeb, gan hyrwyddo cariad at lyfrau a darllen. "Rydyn ni'n croesawu Syr Chris i Gaerdydd ac rwy'n annog pobl i brynu tocynnau cyn gynted â phosibl i osgoi cael eu siomi."

Rhowch rwydd hynt i ddychymyg eich plentyn a chyfrannu at ei fwynhad o ddarllen y Nadolig hwn drwy brynu tocynnau i weld ei hoff awduron a darlunwyr wrth iddyn nhw droi geiriau a lluniau'n gig a gwaed. Caiff y rhain eu cynnal mewn lleoliadau eiconig ledled canol y ddinas ac maen nhw'n llawn straeon a pherfformiadau anhygoel a chast o gymeriadau gwych, felly pa ffordd well o lenwi hosan pawb sy'n caru llyfrau plant? Bydd modd prynu tocynnau ar gyfer Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2018 o 12 Rhagfyr 2017 ymlaen.