The essential journalist news source
Back
6.
November
2017.
Enwi Cyngor Caerdydd fel Pencampwr Cyflog Byw i Gymru 2017-18

Mae'r Sefydliad Cyflog Byw wedi enwi Cyngor Caerdydd fel ei Bencampwr Cyflog Byw i Gymru ar gyfer 2017-18.

 

Rhoddwyd yr anrhydedd i gydnabod ‘cyfraniad arbennig neilltuol y Cyngor i ddatblygu'r Cyflog Byw yng Nghymru, ymhellach a thu hwnt i'r hyn sydd yn ofynnol ar gyfer achrediad.'

 

Cyngor Caerdydd yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru wedi ei achredu yn llawn fel cyflogwr Cyflog Byw ac mae wedi ymrwymo i wneud prifddinas Cymru yn ‘Ddinas Cyflog Byw'. Mae'n annog yn weithredol gyflogwyr eraill i achredu, hyrwyddo Cyflog Byw drwy ei gadwyn gyflenwi a hysbysebu Cyflog Byw ar ochrau ei fflyd o loriau biniau. Mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi Cynllun Cymorth Achredu Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith sy'n cynnig cymorth ariannol i fusnesau bach a chanolig yn y ddinas i dalu eu ffioedd achredu am hyd at dair blynedd.

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, a dderbyniodd yr anrhydedd ar ran yr awdurdod: "Fel Cyngor credwn fod talu'r Cyflog Byw nid yn unig y peth iawn i'w wneud ar gyfer staff, mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes da. Rydym yn ei weld fel buddsoddiad tymor-hir yn ein pobl.  Mae'n seiliedig ar ein gwerthoedd a'n cred fod tîm sy'n derbyn gwobr teg ac amodau gwaith da mewn sefyllfa well i gynnig gwasanaeth gwych.

"Rydym wedi gweld yr effaith sylweddol mae talu'r Cyflog Byw wedi ei gael ar ein staff ein hunain ac yn awyddus i hyrwyddo'r manteision i'n partneriaid yn ogystal i fusnesau a sefydliadau eraill ar draws Caerdydd."

Yn 2012, Cyngor Caerdydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf i dalu Cyflog Byw i'w weithlu cyfan. Mae 2,500 o gyflogeion bellach yn elwa ar y Cyflog Byw, yn bennaf glanhawyr, goruchwylwyr clybiau brecwast, cynorthwywyr arlwyo, gweithwyr crèche, ceidwaid tai a goruchwylwyr dros ginio mewn ysgolion.

Bydd cyfradd newydd y DU o £8.75 yr awr a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw yn berthnasol i holl staff y Cyngor dros 18 oed o ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.