The essential journalist news source
Back
27.
October
2017.
Ysgol Gynradd Radnor yw'r chweched ysgol yng Nghaerdydd i gael ei chydnabod gyda gwobr ysgolion iach Cymru

Mae Ysgol Gynradd Radnor yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith i hyrwyddo iechyd a llesiant cymuned yr ysgol. 

[image]

Gwnaeth aseswyr Gwobr Ansawdd Genedlaethol y Cynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru gydnabod bod Ysgol Gynradd Radnor, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd a phartneriaid, wedi llwyddo i gyflwyno mentrau a rhaglenni i hyrwyddo iechyd a llesiant i'r safon uchaf posibl. 

Ymhlith mentrau'r ysgol maePrifysgol Radnor, sy'n cynnig cyrsiau gan gynnwys coginio, rygbi a rhedeg, ynghyd ag ystod o weithgareddau ffitrwydd yn ystod ac ar ôl yr ysgol. Mae llawer o'r gweithgareddau'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chlybiau allanol, megis Undeb Rygbi Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. 

Yn benodol, roedd yr aseswyr cenedlaethol yn falch o weld llawer o weithgareddau ysgolion iach Ysgol Gynradd Radnor yn rhan arferol o fywyd pob dydd yr ysgol. Cafodd yr ysgol ganmoliaeth hefyd am ei rhaglen addysg datblygiad personol a pherthnasau oedd wedi'i chynllunio'n dda, ynghyd â gwersi addas i oedran ar smygu, alcohol a sylweddau eraill. 

Gwnaeth yr aseswyr gwobrau hefyd ganmol cyfranogiad y disgyblion, gan nodi bod ‘grwpiau llais disgyblion megis Tîm Iechyd, Cynghorau Eco a'r Cyngor Ysgol, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Ifanc ac Arweinwyr Digidol yn dangos llawer iawn o gyfranogiad disgyblion ledled yr ysgol'. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Llongyfarchiadau i Mrs James a'i staff, y plant, y rhieni a'r llywodraethwyr ar ennill y wobr wych hon. Mae'n cymryd llawer o waith caled i gael Gwobr Ansawdd Genedlaethol, a dylai pawb sydd ynghlwm wrth Ysgol Gynradd Radnor fod yn falch iawn o lwyddiant yr ysgol. 

"Mae'r cynllun ysgolion iach yn cynnwys ystod eang o weithgareddau a mentrau, ac mae pob un o'r rhain yn bwysig iawn o ran dod â buddion iechyd a llesiant go iawn i bawb sydd ynghlwm wrth yr ysgol. 

"Rwy'n falch iawn o weld Ysgol Gynradd Radnor yn dod y chweched ysgol yng Nghaerdydd i dderbyn y Wobr Ansawdd Genedlaethol benigamp, ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o'n hysgolion yn ymuno â'r rhestr yn y dyfodol."

Mae Gwobrau Ansawdd Genedlaethol eisoes wedi cael eu cyflwyno yng Nghaerdydd i Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn 2011, Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Pwll Coch yn 2015, Ysgol Gynradd Adamsdown yn 2016 ac Ysgol Gynradd Severn eleni. 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Radnor, Mrs Ann James: "Rydym yn falch iawn o'r wobr hon. O ddisgyblion i staff, rhieni i lywodraethwyr, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gadw iechyd a diogelwch wrth galon ethos yr ysgol. Mae cael cydnabyddiaeth Gwobr Ansawdd Genedlaethol am ein gwaith caled yn ffantastig i ni. 

"Hoffwn ddiolch i holl gymuned yr ysgol am gefnogi'r cynllun ysgolion iach, yn benodol y plant sydd wedi bod â rôl mor actif yn llwyddiant yr ysgol a'n cydlynydd ysgolion iach, Sarah Blackmore." 

Dan reolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru wedi bod ar waith ers 1999, ac mae'n ystyried mentrau bwyd a ffitrwydd, iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, datblygiad personol a pherthnasoedd, defnydd a chamddefnydd o sylweddau, yr amgylchedd, diogelwch a hylendid. 

Dywedodd Karen Thompson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd y Rhaglen Lleoliadau Addysg, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn falch iawn bod Ysgol Gynradd Radnor wedi derbyn y wobr ragoriaeth hon. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am ymrwymo i ymgorffori iechyd a lles yn niwylliant a deunydd yr ysgol. 

"Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut y mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gydradd â chymuned yr ysgol i wella dyfodol iechyd a lles ein plant. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau yn fwriadus, mae modd i ni greu Cymru fwy iach, mwy hapus a mwy teg."