The essential journalist news source
Back
6.
October
2017.
Cyngor Caerdydd yn creu cynllun ysgol uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd i'r ddinas

Mae Cyngor Caerdydd yn creu cynlluniau i gam nesaf buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ysgolion y ddinas. 

Mae rownd fuddsoddi bresennol y cyngor, a gydariennir gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, am gael ei gwblhau erbyn 2019. Mae cynlluniau'n digwydd i fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn ysgolion Caerdydd, a bydd ail gam buddsoddi hyd at 2024. 

Dan Raglen bresennol Ysgolion yr 21ain Ganrif, a elwir yn ‘Band A', mae Cyngor Caerdydd wedi buddsoddi £164m mewn adeiladu ysgolion newydd, ac ehangu a gwella ysgolion sydd eisoes yn bodoli erbyn 2014. 

Ymhlith y projectau a ariennir ganFand Amae codi dwy ysgol uwchradd newydd - Ysgol Uwchradd Y Dwyrain ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd - a chwe ysgol gynradd newydd - Howardian, Gabalfa, Pontprennau, Ysgol Glan Ceubal, Ysgol Glan Morgan ac Ysgol Hamadryad. 

Mae cynigion cychwynnol ar gyfer y rownd fuddsoddi nesaf -Band B- wedi'u cynnwys mewn adroddiad sy'n cael ei drafod yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ar 12 Hydref. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad i ofyn am gydariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn i'r awdurdod lleol:

  • Godi tair ysgol uwchradd newydd

  • Buddsoddi mewn darpariaeth ysgol uwchradd Saesneg ychwanegol yng nghanol Caerdydd

  • Ehangu a gwella cyflwr y ddarpariaeth addysg arbennig gynradd ac uwchradd

  • Cynyddu darpariaeth gynradd Gymraeg yn nwyrain a gorllewin Caerdydd

  • Cynyddu darpariaeth ysgolion cynradd Saesneg Bae Caerdydd a gorllewin y ddinas

 

Yn rhoi sylwadau ar y cynigion, dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Drwy gam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif rydym am gadw'r momentwm a gododd gan yr ystod gyffrous o brojectau a gyflawnom â Llywodraeth Cymru ers 2014, gan ddal i greu ysgolion ysbrydoledig, cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y gymuned lle gall ein plant a phobl ifanc gyflawni eu potensial. 

"Nid yn unig bydd y rownd fuddsoddi nesaf yn ein galluogi i barhau i adnewyddu ein hysgolion, ond bydd hefyd yn cynnig mwy o leoedd ysgol ymhob sector - cynradd, uwchradd, anghenion dysgu ychwanegol, cyfrwng Cymraeg a Saesneg - gan greu capasiti ychwanegol fydd ei angen wrth i boblogaeth Caerdydd ddal i dyfu. 

"O ran buddsoddiad ysgolion yng Nghaerdydd, bu'r misoedd diwethaf yn rhai rhyfeddol. Bûm i ddigwyddiadau torri tywarch yn safleoedd pedair ysgol gynradd newydd ac yn edrych ymlaen at wnaed yr un fath yn Ysgol Gyfun Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Hamadryad dros yr wythnosau nesaf. Es hefyd i ddigwyddiad ar Gampws Cymunedol y Dwyrain i nodi cwblhau gwaith adeiladu allanol ar gartref newydd Ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Caerdydd a'r Fro. 

"Ymhob un o'r digwyddiadau hyn fe'm tarwyd gan gyffro'r disgyblion a'r myfyrwyr, staff a llywodraethwyr, wrth feddwl am gael ysgol newydd. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r momentwm ac yn cyflawni'r cam buddsoddi nesaf sy'n galluogi mwy byth o'n plant a phobl ifanc sy'n cael budd o amgylcheddau dysgu sy'n addas i'r 21ain ganrif." 

Caiff manylion am y cynlluniau penodol a ystyrir gan gabinet y cyngor mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn dibynnu ar ganlyniad penderfyniad ariannu Llywodraeth Cymru yn yr hydref. 

Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn nodi bod nifer fawr o ysgolion o bob math yng Nghaerdydd mewn cyflwr gwael. 

Mae'n amlinellu'r angen am arian ychwanegol ar gyfer cynnal, newid ac ymestyn ysgolion Caerdydd, yn cydnabod na fydd Rhaglen Ysgolion yr 21ain GanrifBand Byn ddigon i dalu am yr ôl-groniad cynnal a chadw sylweddol yn ysgolion y ddinas. 

Mae tua £17m, neu 14%, o'r materion cynnal a chadw wedi'u datrys drwy fuddsoddiadBand AYsgolion yr 21ain Ganrif, gan adael £68m o atgyweiriadau i'w gwneud.

Ychwanegwyd £5m at y gyllideb cynnal a chadw flynyddol o £3m yn 2016-17, i ddatrys materion cydymffurfiaeth. 

Yn ogystal â nodi cost anghenion cynnal a chadw, dywed yr adroddiad fod Ysgolion Uwchradd Cantonian, Willows a Fitzalan wedi'u hasesu'n rhai ‘Categori D' o ran cyflwr, sy'n golygu eu bod ar ddiwedd eu hoes. 

Mae cyflwr cyfradd fawr o ysgolion wedi'i hasesu'n ‘Categori C' sy'n golygu eu bod yn dirywio'n sylweddol.

Mae dwy o ysgolion arbennig y ddinas - Court a Riverbank - yn y 'categori C-‘ ac angen sylw brys yn y dyfodol agos. 

Dywedodd y Cyng. Sarah Merry:"Tra bydd cam nesaf y buddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif yn mynd gryn ffordd at unioni cyflwr difrifol yr ystâd ysgolion yng Nghaerdydd, mae angen nodi arian ychwanegol sylweddol er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn aros yn ddiogel ac yn addas at y diben. 

Mae Adroddiad llawn y Cabinet yn manylu ar y cynigion ar gael ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd