The essential journalist news source
Back
22.
September
2017.
Llawer yn dathlu wrth i waith ddechrau ar ddwy ysgol gynradd newydd yng ngogledd Caerdydd

Mae'r tyrchu wedi dechrau ar safle dwy ysgol gynradd yng ngogledd Caerdydd, gan nodi dechrau'r gwaith i adeiladu cartref newydd sbon danlli i Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal.

 

[image]

 

Croesawodd pennaeth Ysgol Gynradd Gabalfa, Mrs Carrie Jenkins, a phennaeth Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Mrs Lisa Mead, ynghyd â disgyblion o'r ddwy ysgol, westeion i'r seremoni torri'r dywarchen gyntaf i ddathlu dechrau'r gwaith adeiladu.

 

Wedi'i hariannu ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, bydd y project gwerth £8.2m yn cynnig cartref newydd i'r ddwy ysgol ar safle 32,000 medr sgwâr rhyngddyn nhw.

 

Wedi'i ddylunio gan dimau Projectau, Dylunio a Datblygu Cyngor Caerdydd, bydd yr adeilad newydd ar dir rhwng yr ysgolion presennol ar Colwill Road ac unwaith y bydd wedi'i gwblhau yr haf nesaf, caiff yr adeiladau ysgol presennol eu dymchwel.

 

Bydd y safle'n cael ei ail-dirlunio a bydd gan bob ysgol ei hardal gemau aml-ddefnydd ei hun, ynghyd â chae chwarae, ysgol goedwig ac ardal dyfu.

 

Bydd gan y ddwy ysgol le ar gyfer hyd at 210 o ddisgyblion, o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6, ynghyd â chynnig darpariaeth feithrin lawn-amser.

 

Ymunodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau â'r penaethiaid a'r plant i dyrchu'r dywarchen, ynghyd ag Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, Cynghorwyr Ystum Taf, Dilwar Ali a Jennifer Burke-Davies, Llywodraethwyr o'r ddwy ysgol a staff o Gyngor Caerdydd a Dawnus, y cwmni sy'n adeiladu'r ysgolion newydd.

 

Wrth drafod yr achlysur, dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Roeddwn i'n falch iawn o gael rhannu'r achlysur arbennig hwn gyda phlant a staff Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal.

 

"Dyma adeg gyffrous i'r ddwy ysgol, sy'n nodi carreg filltir bwysig iawn yn y project a roddith gartref newydd iddyn nhw.

"Mae'n adeilad gwahanol iawn i lawer o ysgolion newydd eraill yng Nghaerdydd. Mae'r dyluniad arloesol ar y cyd yn creu ffordd effeithiol i ni i gynnig addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar yr un safle.

 

"Mae'r cynllun wedi'i ddylunio mewn ffordd sy'n sicrhau y gall y ddwy ysgol gadw eu hunaniaeth, wrth eu galluogi i gydweithio er budd y gymuned leol."

 

[image]

 

Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd Mrs Carrie Jenkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Gabalfa: "Rydyn ni'n falch iawn o gael cyfle i rannu cyfleusterau newydd gydag Ysgol Gymraeg Glan Ceubal ac rydyn ni wedi ymrwymo'n llawn i adeiladu ar y berthynas bositif sydd gennym, ynghyd â chreu rhai newydd ar gyfer y dyfodol."

 

Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Glan Ceubal yn 2009, pan gychwynnodd ddosbarth dechreuol mawn rhan yn Ysgol Gynradd Gabalfa, ac ers hynny, mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg wedi dal i dyfu.

 

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Mrs Lisa Mead: "Bydd yr ysgol newydd yn ein galluogi i weithio mewn ffordd unigryw, gan rannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd, ein harbenigedd a'n brwdfrydedd i sicrhau bod Ysgol Gymraeg Glan Ceubal ac Ysgol Gynradd Gabalfa yn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned."

 

Dywedodd Matthew Morgan, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Dawnus: "Mae Dawnus yn falch iawn o ddechrau ar y gwaith o adeiladu ysgolion cynradd newydd Gabalfa a Glan Ceubal. Drwy ein rhaglen o brojectau addysg ledled Cymru, rydyn ni'n gallu cynnig budd mawr i arian Cymreig drwy fuddsoddi mewn pobl, cefnogi'r gadwyn cyflenwi leol a chynnwys y gymuned ehangach. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Chaerdydd a'r ysgolion ar y project cyffrous hwn."

 

Mae rownd fuddsoddi bresennol Caerdydd mewn perthynas â'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif werth £174m. Mae'r rhaglen yn cynnwys saith ysgol newydd sydd wrthi'n cael eu hadeiladu: Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Gynradd Gabalfa, Ysgol Gynradd Howardian, Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Ysgol Gymraeg Glan Morfa ac Ysgol Gymraeg Hamadryad.