The essential journalist news source
Back
14.
September
2017.
Helpu i siapio gwasanaethau cyflogaeth y ddinas

Helpu i siapio gwasanaethau cyflogaeth y ddinas

 

Mae ymgynghoriad ar y gweill ar ddull newydd o gynnig gwasanaethau cyflogaeth yn y ddinas.

 

Mae'r Cyngor eisiau barn pobl ar gynigion i gynnig a chyd-lynu gwasanaethau cyflogaeth yn uniongyrchol i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith neu i ddod o hyd i swydd well. Dan y cynnig newydd, bydd gwasanaethau ar gael ledled y ddinas i bawb y mae eu hangen arnynt.

 

Ar hyn o bryd mae mwy na 40 o wahanol gynlluniau sy'n helpu pobl i weithio yn y ddinas, y mae pob un â meini prawf cymhwyso gwahanol ac yn aml mae pobl yn methu cyfleoedd gan nad ydynt yn byw yn yr ardal gywir, nad ydynt yr oedran cywir neu gan nad ydynt yn gwybod am y help sydd ar gael. Mae'r Cyngor yn ceisio rhesymoli darpariaeth ac yn sicrhau y gall pobl gael mynediad at y gwasanaeth sy'n addas iddynt.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Rydym wedi datblygu cynnig cyffrous iawn ar gyfer gwasanaeth cyflogaeth dinas gyfan ar sail anghenion pobl nad yw wedi'i gyfyngu gan leoliad.

 

"Mae angen help ar lawer o bobl i ddychwelyd i'r gwaith neu i ddod o hyd i swydd well ac rydym eisiau sicrhau bod y help hwn ar gael i bawb y mae ei angen arnynt.

 

"Rydym yn gwybod y gall y system bresennol fod yn ddryslyd iawn ac ni all nifer o bobl gael mynediad t gwasanaethau y mae eu hangen arnynt oherwydd lle y maent yn byw neu ddim ond oherwydd eu hoedran felly mae angen dull mwy cydlynol arnom.

 

"Gyda llai o arian ar gael, mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod yr arian sydd gennym yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pethau y mae eu hangen ac nad ydym yn dyblu gwasanaethau.

 

"Rydym yn awyddus i wybod barn pobl ar y cynnig, pa wasanaethau y maen yn eu defnyddio ar hyn o bryd a'r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol."

 

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu'r rhaglen Cymunedau Yn Gyntaf yn raddol ac i ymgymryd â dull newydd o drechu tlodi ledled Cymru, mae rhywfaint o arian ar gael i gynnig gwasanaethau cyflogaeth ac i adeiladu cymunedau gwydnwch, ond mae llawer llai o'r arian hwn ar gael nac yr oedd ar gael o'r blaen.

 

Byddai'r gwasanaethau newydd yn cael eu cynnig trwy Hybiau Cymunedol y Cyngor ac o adeiladau cymunedol eraill.

 

Dywedodd y Cyng. Thorne: "Rydym hefyd yn awyddus i glywed am brofiad pobl oGymunedau Yn Gyntaf a'r bylchau y maent yn credu fydd i'w gweld ar ôl i'r gwasanaeth stopio. Rydym hefyd eisiau gwybod sut hoffai pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrojectau lleol a sut gallent ddylanwadu ar y cymunedau y maent yn byw ynddynt a'u siapio."

 

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 4 Hydref a chaiff nifer o sesiynau ymgysylltu cymunedol eu cynnal ochr yn ochr â gweithgareddau clwb swyddi mewn hybiau ac adeiladau cymunedol.

 

I gwblhau'r arolwg, ewch i

 

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=150470259771

 

Bydd canlyniadau o'r ymgynghoriad yn helpu i lywio'r cynnig ar gyfer gwasanaethau cyflogaeth a'r defnydd o'r arian newydd, a gaiff ei ystyried gan y Cabinet ym mis Tachwedd.