The essential journalist news source
Back
18.
August
2017.
Echo’r milgi’n ymddangos ar Channel 4

[image]

Mae milgi o Gartref Cŵn Caerdydd wedi bod ar raglen anifeiliaid anwes boblogaidd Channel 4, ‘Animal Rescue Live'.

Cafodd y milgi o'r enw Echo ei ffilmio yn y cartref ac yna ar leoliad yn Newcastle wythnos diwethaf ar gyfer y sioe deledu a gyflwynwyd gan seren 'The Supervet' - Yr Athro Noel Fitzpatrick a'r cyflwynydd o Gymru Steve Jones.

Nid yw Echo'n 3 oed eto, ac mae'n filgi annwyl iawn. Cafodd ei achub o Gwrs Rasio Ystrad Mynach ar ddiwedd ei yrfa rasio.

Dywedodd Rheolwr Cartref Cŵn Caerdydd, Maria Bailie: "Gwnaeth Echo ddigon o ffrindiau fyny yn Newcastle lle roedd yn boblogaidd iawn gyda Noel a gweddill y criw. Mae'n un naturiol iawn o flaen y camera ac roedd yn brofiad gwych i bawb. Mae rhaglenni teledu fel hyn yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa cŵn fel Echo a gobeithio y daw o hyd i gartref da o ganlyniad i'r sylw a gafodd. Gwnaeth Noel hefyd gyflwyno rhai agweddau cadarnhaol eraill ar y gwaith a wnawn yng Nghartref Cŵn Caerdydd gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, ein gwaith gyda phobl ifanc, y cynllun prentisiaeth Plant sy'n Derbyn Gofal, llety argyfwng a chyfleoedd i oedolion agored i niwed."

Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn Ystâd Ddiwydiannol Westpoint ar Heol Penarth ac mae ar agor o 10:30am tan 4pm saith diwrnod yr wythnos ond yn cau'n hwyrach am 6pm ar ddydd Llun a dydd Iau. Mae'n ail-gartrefu tua 400-500 o gŵn y flwyddyn. Gallwch gysylltu â nhw yn 029 2071 1243.