The essential journalist news source
Back
16.
August
2017.
Rhannwch eich safbwyntiau ar y ddinas

Rhannwch eich safbwyntiau ar y ddinas

 

 

Gofynnir i breswylwyr yng Nghaerdydd pa mor iach a hapus maen nhw'n teimlo, fel rhan o arolwg blynyddol y Cyngor ar ei wasanaethau a boddhad cyffredinol gyda'r ddinas.

 

Mae Holi Caerdydd 2017 yn ceisio casglu safbwyntiau dinasyddion ar ystod o faterion gyda ffocws penodol ar lesiant.

 

Bydd yr arolwg hefyd yn dechrau sgwrs gynnar ar gyllideb 2018/19 y Cyngor gan fod angen i'r awdurdod ddod o hyd i £24m ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd canlyniadau o Arolwg Holi Caerdydd 2017 yn sail i gynigion cyllidebol yr ymgynghorir arnynt yn fanylach yn ddiweddarach eleni.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'r arolwg Holi Caerdydd blynyddol yn gyfle i bobl ddweud wrthym am eu profiad o wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas - yr hyn sy'n gywir, yr hyn sy' anghywir a sut y gallai pethau newid er gwell.

 

"Eleni rydym eisiau clywed am hapusrwydd a iechyd pobl mewn bywyd bob dydd. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl gymryd rhan a helpu i ddylanwadu ar newidiadau a gwelliannau o ran y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn eu hardal leol.

 

"Y llynedd cawsom ymateb da iawn i'r arolwg gyda mwy na 4,000 o bobl yn cymryd rhan. Rydym eisiau sicrhau bod yr ymatebion yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yn llawn felly rydym yn awyddus i glywed gan bobl ifanc, preswylwyr yn Ne neu Ddwyrain y ddinas ac unrhyw un o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig."

 

Mae'r arolwg ar gael i'w gwblhau ar-lein (www.cardiff.gov.uk/askcardiffwww.caerdydd.gov.uk/holicaerdydd) Gellir anfon unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg iymgynghoriad@caerdydd.gov.uk

 

Y dyddiad cau ar gyfer Holi Caerdydd 2017 yw dydd Sul 24 Medi 2017.