The essential journalist news source
Back
28.
July
2017.
Siop un stop’ Hyb Powerhouse ar fin agor

‘Siop un stop' Hyb Powerhouse ar fin agor

 

Mae hyb diweddaraf y ddinas yn agor yr wythnos nesaf, yn dod â gwasanaethau a chyfleusterau i galon y gymuned.

 

Bydd Hyb Powerhouse yn Llanedern ar agor chwe diwrnod yr wythnos o ddydd Llun, Gorffennaf 31 am 9am yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau a chyfleusterau gwell.

 

Mae'r adeilad wedi ei estyn ac wedi ei adnewyddu'n sylweddol er mwyn dod y cyfleuster diweddaraf i agor yn rhaglen lwyddiannus hybiau cymunedol y Cyngor, sy'n dod â gwasanaethau a gwasanaethau partner ynghyd mewn un adeilad.

 

Yn y Powerhouse newydd mae llyfrgell gydag ardal dawel a lle af gyfer digwyddiadau i blant, ystafell hyfforddi TG, ystafelloedd cyfweld preifat, ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cymunedol a digwyddiadau, caffi cymunedol a neuadd gymunedol.

 

Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu cael gwasanaethau tai, budd-daliadau a chyngor, defnyddio'r rhyngrwyd am ddim a Wi-Fi, defnyddio ffonau am ddim i gysylltu â'r Cyngor a gwasanaethau eraill a chyngor i Mewn i Waith a chyrsiau hyfforddi.

 

Bydd gan wasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor hefyd safle yn yr hyb newydd, yn cynnig cyfleoedd dysgu i oedolion yn cychwyn ym mis Medi a bydd y Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn cynnig ystod o weithgareddau i bobl ifanc yn yr ardal dair noson yr wythnos (nos Fawrth, Iau a Gwener) gyda chyfleusterau yn cynnwys stiwdio miwsig ac ardal gymdeithasol a chwaraeon.

 

Mae agor y Powerhouse yn rhan o ddatblygiad ehangach ystâd Maelfa yn Llanedern ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar y project a fydd yn dod â siopau modern, cyfleusterau cymunedol a chymysgedd o dai rhent cymdeithasol a thai preifat ar y safle presennol.

 

Mae Heddlu De Cymru, yr oedd ganddynt orsaf leol yng Nghanolfan Maelfa gynt, wedi symud i The Powerhouse a bydd ganddynt swyddfeydd annibynnol ar y llawr cyntaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae hyb newydd ar gyfer y ddinas yn newyddion gwych, yn arbennig ar gyfer cymunedau Llanedern a Phentwyn. Mae ein hybiau eraill wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi ein helpu i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Rwy'n siŵr na fydd yr hyb newydd yn eithriad, bydd yn gaffaeliad da i'r bobl leol.

 

"Bydd adfywio Maelfa yn dod â chwa o awyr iach i'r rhan hon yn y ddinas ac mae The Powerhouse yn rhan bwysig o'r ailddatblygu, yn dod â gwasanaethau y mae ar bobl eu hangen i galon y gymuned.

 

"Rwy' hefyd yn falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda Heddlu De Cymru i adleoli ein gwasanaethau i The Powerhouse. Mae hyn yn esiampl wych o weithio mewn partneriaeth."

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: "Mae'r hyb yn gyfleuster y gall y gymuned leol fod yn falch iawn ohono, mae'n ganlyniad i waith partneriaeth ardderchog a gweledigaethol ac mae'n batrwm ar gyfer projectau'r dyfodol.

"Yn wir, mae bod yn yr adeilad yn rhoi troedle cadarn i'r heddlu yng nghanol y gymuned yn ystod cyfnod cyffrous iawn i bawb yn Llanedern a'r cyffiniau.

"Mae'n rhoi safle addas at y diben i'n swyddogion y gallan nhw fynd o gylch eu busnes bob dydd ohoni.

"Bydd agosrwydd swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu at y cyhoedd ac eraill wrth ddefnyddio'r hyb i weithio gyda'r gymuned heb os yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer cysylltu a rhyngweithio rheolaidd.

"Ond nid gorsaf heddlu draddodiadol ydy'r hyb, does dim mynedfa a desg sy'n codi ofn. Rydyn ni wedi symud ymlaen i sefyllfa lle mae swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn treulio rhan fwyaf eu hamser yn y gymuned, y lle gorau iddyn nhw dreulio eu hamser.

"Os oes angen cymorth yr heddlu ar bobl, mae ffôn melyn wedi ei osod y tu allan i'r adeilad, sy'n rhoi'r gallu i bobl ffonio'r rhif di-argyfwng, 101, yn syth ac am ddim ar unrhyw amser yn y dydd neu'r nos."

 

Cyn agor yr hyb newydd, ni fydd y gwasanaethau sydd yn The Powerhouse ar hyn o bryd ar gael ddydd Iau 27, dydd Gwener 28 na dydd Sadwrn 29 Gorffennaf oherwydd y bydd yr adeilad ar gau ar gyfer gwaith paratoi.