The essential journalist news source
Back
13.
July
2017.
Dirwy i Landlord am droseddau Rhentu Doeth Cymru

Dirwy i Landlord am droseddau Rhentu Doeth Cymru

 

Mae landlord o Gaerdydd a anwybyddodd gynllun Rhentu Doeth Cymru'n wynebu dirwy o dros £3,500 am beidio â chydymffurfio.

 

Cafodd y landlord Shelley Bailey o Eastwood Park, Wotton-Under-Edge, Swydd Gaerloyw ei herlyn dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 am dorri'r gyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob landlord preifat ag eiddo yng Nghymru gofrestru ac i bob landlord ac asiant sy'n hunan-reoli dderbyn hyfforddiant a chael trwydded.

 

Yn ymateb i adroddiadau ei bod hi'n peidio â chydymffurfio, ceisiodd Rhentu Doeth Cymru gysylltu â hi i roi gwybod iddi bod gofyn arni i gofrestru ei hun a'i saith eiddo yng Nghaerdydd ac i gwblhau ei hyfforddiant a chael trwydded oherwydd ei bod yn hunan-reoli.

 

Ni chymerodd Ms Bailey unrhyw gamau i gydymffurfio a chyflwynwyd Hysbysiad Tâl Cosb am £150 iddi ym mis Ebrill, ond oherwydd na thalodd y ddirwy, gwnaeth Cyngor Caerdydd, sy'n gweithredu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, ei herlyn gerbron llys.

 

Cafwyd hi'n euog o 21 trosedd yn ei habsenoldeb yn Llys Ynadon Caerdydd, cafodd ddirwy o £3,580 a chostau o £457 i'w talu.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Sefydlwyd Rhentu Doeth Cymru i godi safonau yn y sector rhent preifat, diogelu tenantiaid a sicrhau bod landlordiaid ac asiantau'n addas a phriodol ac yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau.

 

"Roedd gan landlordiaid ac asiantau flwyddyn gron i gydymffurfio cyn y terfyn amser ym mis Tachwedd 2016 pan ddaeth y grymoedd gorfodi'n weithredol ond serch hyn, mae rhai landlordiaid yn credu y cânt anwybyddu'r gyfraith ac osgoi cydymffurfio.

 

"Mae'r achos hwn yn dangos ein bod yn chwilio am y rhai sy'n gwrthod cydymffurfio ac rydym yn gweithio ag Awdurdodau Lleol trwy Gymru yn ogystal ag eraill er mwyn darganfod achosion o anghydymffurfio. Rydym yn awyddus i glywed gan denantiaid a chymdogion sy'n bryderus am landlordiaid ac eiddo heb eu cofrestru.

 

"Fel y gwelwn yn yr achos erlyn hwn, mae'r cosbau am beidio â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru yn ddifrifol ac mae'r ddirwy a roddwyd yn adlewyrchu'r difaterwch llwyr a ddangosodd y landlord tuag at y cynllun. Dylai'r achos fod yn rhybudd i'r holl rai sydd eto heb gydymffurfio ac rwy'n annog unrhyw landlord neu asiant heb gofrestru neu heb drwydded i beidio ag oedi. Dewch atom a chydymffurfiwch heb oedi."