Diogelwch tân yn adeiladau uchel y Cyngor yng Nghaerdydd
Yn dilyn y tân trychinebus yn nhŵr Grenfell yn Llundain, yn naturiol, mae pryder ynghylch diogelwch mewn adeiladau uchel yn y ddinas.
Mae diogelwch tân yn hynod bwysig gan y Cyngor ac mae gan y gwasanaeth tai dîm ymroddgar sydd wedi ei hyfforddi'n drylwyr ar faterion diogelwch tân.
Mae Cynllun Rheoli Diogelwch Tân yn weithredol a gwneir asesiadau risg tân ym mhob bloc uchel yn flynyddol ac mae staff cymwys yn eu hadolygu bob chwe mis.
Mae ymarferion hyfforddi yn mynd rhagddynt ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ein blociau uchel er mwyn atgyfnerthu ein gweithdrefnau ac mae'r gofalwyr yn sicrhau diogelwch tân bob dydd, yn symud unrhyw wrthrychau a fyddai'n fflamio neu'n lledaenu tân oddi wrth ardaloedd cymunedol.
Mae gan y Cyngor naw bloc o fflatiau uchel:
Lydstep Flats, Gabalfa (3 bloc)
Beech House a Sycamore House, Ystâd Llwyncelyn, Yr Eglwys Newydd
Loudoun a Nelson House, Butetown
Trem y Môr, Grangetown
Y Maelfa, Llanedern
Mae pob bloc wedi ei adeiladu i wrthsefyll tân ac maent yn cyfyngu tân i'r fflat lle y dechreua. Bob tro y mae un o'r fflatiau'n wag, bydd profion manwl yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau bod y rhaniad rhwng fflatiau'n addas ac yn ddigonol i atal tân rhag lledaenu o fflat i fflat.
Mae synhwyrydd mwg ym mhob fflat a chânt eu profi'n flynyddol. Ceir prawf diogelwch nwy hefyd yn flynyddol.
Mae chwistrellwyr dŵr yn nhwneli bin yr adeiladau uchel; mae'r rhain yn peri risg, ond nid yn unman arall yn yr adeilad. Trafodir yr angen am chwistrellwyr eto gyda'r Gwasanaeth Tân yn y dyfodol.
Rhoddwyd gorchudd o ddeunydd atal tân traddodiadol ar nifer o'n fflatiau blociau uchel ar ddechrau'r 1990au, yn wahanol i'r rhai a ddefnyddiwyd yn Llundain.
Oherwydd mai diogelwch ein tenantiaid yw'r flaenoriaeth bennaf, mae'r Cyngor wedi cyflogi cwmni o ymgynghorwyr annibynnol i adolygu cyfanrwydd y systemau gorchudd.
Mae profion gweledol wedi bod a gallwn gadarnhau nad yr un defnydd â'r un a ddefnyddiwyd yn Llundain mohono. Mae'r contractwr annibynnol wrthi'n cwblhau arolwg manylach a chawn ganlyniadau hwnnw'r wythnos hon.
Ni chaiff unrhyw ddeunydd gorchuddio newydd ei ddefnyddio ar flociau fflatiau uchel hyd nes y cwblheir adolygiad llawn ac ymgynghoriad pellach.
Wrth gwrs, mae'r holl weithdrefnau diogelwch tân yn destun adolygiad yn sgil trychineb tŵr Grenfell, a chaiff y gwersi a ddysgir eu monitro wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r amlwg.