The essential journalist news source
Back
4.
July
2017.
Lle diogel i gael paned a sgwrs

Lle diogel i gael paned a sgwrs

 

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd yn estyn croeso cynnes i'r Caffi Demensia yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.

 

Bob dydd Iau cyntaf a thrydydd dydd Iau'r mis, mae gwahoddiad i bobl sy'n byw â demensia, eu gofalwyr a'u teuluoedd i ddod i gyfarfod yn y caffi a mwynhau paned a chael cyfle i gyfarfod ag eraill, derbyn gwybodaeth a dysgu am wasanaethau mewn amgylchedd cymdeithasol.

 

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer, lansiwyd y Caffi Demensia'r mis diwethaf yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Demensia.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydyn ni am estyn croeso cynnes i unrhyw un sydd am ddod i'n Caffi Demensia i ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

 

"Mae gan ein llyfrgelloedd rôl i'w chwarae yn yr agenda iechyd a llesiant; yn ogystal â chadw toreth o wybodaeth, mae llyfrgelloedd ledled y ddinas yn cynnal nifer o weithgareddau a all wella tymer pobl a'u lles, yn amrywio o sesiynau canu i glybiau darllen a llawer mwy.

 

"Mae llyfrgelloedd Caerdydd yn helpu i chwarae rhan wrth greu cymdeithas demensia-gyfeillgar yma yng Nghaerdydd er mwyn helpu'r rhai y mae demensia'n effeithio arnyn nhw er mwyn iddyn nhw allu byw bywydau gwell a mwy llawn. Felly rwy'n annog unrhyw un â chanddo ddiddordeb i ddod draw i Hyb y Llyfrgell Ganolog."

 

Bydd y Caffi Demensia ar agor yn yr ystafell gyfarfod ar y pedwerydd llawr yn Hyb y Llyfrgell Ganolog. Bydd y sesiwn nesaf ddydd Iau 6 Gorffennaf 11am - 1pm.