The essential journalist news source
Back
28.
June
2017.
Yr Arglwydd Faer yn dewis elusennau ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd

[image]

Mae Arglwydd Faer newydd Caerdydd wedi dewis RSPB Cymru a Buglife Cymru fel ei ddewis o elusennau ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd.

Dros y flwyddyn nesaf mae'r Arglwydd Faer wedi addunedu i gynorthwyo'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru a Buglife Cymru i godi eu proffil yn ogystal â chodi arian sydd â mawr ei angen drwy gynnal digwyddiadau codi arian a gweithgareddau allweddol wedi eu trefnu gan yr elusennau.

Dywedodd Y Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng Bob Derbyshire:"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda chynrychiolwyr elusenennau'r RSPB a Buglife Cymru yn ystod y flwyddyn Faeryddol o'n blaenau. Mae'r elusennau hyn yn chwarae rhan fawr yn helpu i ddiogelu ein planed fregus sy'n wynebu nifer o heriau. Mae'r ddwy elusen hefyd wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd yn y blynyddoedd diwethaf. Gwaith a werthfawrogwyd yn fawr gennyf yn ystod fy amser fel Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros yr Amgylchedd. Rwy'n annog pawb i'n helpu ni i helpu'r amgylchedd drwy gefnogi fy newis o elusennau eleni.

Dywedodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxon: "Mae'r cyfle yma i sicrhau mai ein dinas yw'r cartref gorau y gall fod ar gyfer bywyd gwyllt wedi fy nghyffroi ac i rannu'r angerdd yna dros fyd natur gyda mwy o blant, teuluoedd a chymunedau.O ddolydd blodau gwylltion Fferm y Fforest i lynnoedd tawel Parc y Rhath, mae gan Gaerdydd doreth o fywyd gwyllt i'w gynnig, ond yn rhy aml gall fod yn rhy hawdd byw bywyd mewn dinas heb werthfawrogi'r byd naturiol anhygoel sydd o'n cwmpas ni. Rydym wrth ein bodd felly bod RSPB Cymru a Buglife Cymru wedi eu dewis fel elusennau'r Arglwydd Faer ar gyfer y flwyddyn, gan ein galluogi i annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau yr eiliadau o orfoledd a rhyfeddod mae byd natur yn eu hysgogi.

Dywedodd Rheolwr Buglife Cymru, Clare Dinham: "Rydym wrth ein bodd i gael ein dewis yn un o elusennau'r Arglwydd Faer ac wedi'n cyffroi gan y cyfle i barhau i greu cynefinoedd pwysig i'n peillwyr ledled Caerdydd. Bydd cysylltu ein gerddi, rhandiroedd, parciau a thiroedd ysgolion yn galluogi peillwyr a phryfed eraill i symud ar draws y ddinas a'r tu hwnt. Mae poblogaeth iach o greaduriaid heb asgwrn cefn yn helpu i beillio'n cnydau, rhoi cymorth i fywyd gwyllt arall fel adar a mamaliaid bach ac yn cynnig mwynhad a rhyfeddod. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at recriwtio mwy o wirfoddolwyr i gefnogi ein gwaith yng Nghaerdydd a'n helpu ni i greu hyd yn oed mwy o gynefinoedd i bryfed a chyfleoedd gwych i bobl leol."

Mae RSPB Cymru a Buglife Cymru yn gweithio ledled Caerdydd i ddod â mwy o blant yn nes at fyd natur trwy gyfrwng project Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd. Mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ac wedi ei ariannu yn rhannol gan y Gronfa Loteri Fawr ac Aldi, mae'r project yn ysbrydoli a galluogi pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau lleol i weithredu nid yn unig i gefnogi bywyd gwyllt yng Nghaerydd, ond hefyd i'w drysori. Ers dechrau'r project yn 2014 mae wedi cynnig sesiynau allgymorth am ddim i dros ddwy ran o dair o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ymgysylltu â dros 17,500 o blant i gael profiad real o fyd natur.

Am fwy o wybodaeth ynghylch RSPB Cymru a Buglife Cymru ewch i:www.buglife.org.uka

www.rspb.org.uk/wales.

Caiff cyfraniadau eu croesawu a'u gwerthfawrogi. Anfonwch sieciau taladwy i ‘Elusen yr Arglwydd Faer' i:

Y Swyddfa Brotocol,
Y Plasty
Richmond Road
Caerdydd. CF24 3UN.

 

Os carech drefnu digwyddiad codi arian i gefnogi Elusennau'r Arglwydd Faer, e-bostiwch:Jasdavies@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch 029 2087 1543.