Gwella gwasanaethau dwyieithog gyda Safonau'r Gymraeg
Bydd y Cyngor llawn yn ystyried trosolwg o'r ffordd y mae Cyngor Caerdydd wedi cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2016-17 yr wythnos nesaf.
Mae Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Safonau'r Gymraeg wedi'i gwblhau i fodloni
gofynion y safonau, sydd â'r bwriad o sicrhau na chaiff y Gymraeg ei drin yn llai
ffafriol na'r Saesneg.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu Prifddinas wirioneddol ddwyieithog i Gymru, gan gynnig gwasanaeth o ansawdd yn Gymraeg a Saesneg. Cymeradwywyd Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog yr awdurdod ym mis Mawrth sy'n nodi sut y gellir cyflawni'r weledigaeth o brifddinas wirioneddol ddwyieithog yn cynnwys y nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd gan 15.9% erbyn 2021.
Mae'r adroddiad blynyddol yn amlinellu data allweddol am waith y Cyngor i hybu'r Gymraeg a sut mae datblygu o ran cydymffurfio â'r safonau.
Cyhoeddwyd 171 o safonau i'r Cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ymwneud â
gwasanaeth, gwneud polisïau, cadw cofnodion, safonau hyrwyddo a gweithredu.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Bwriad Safonau'r Gymraeg yw gwella'r gwasanaethau y mae pobl yn disgwyl eu derbyn gan sefydliadau megis y Cyngor yn y Gymraeg.
"Dros y 25 o flynyddoedd diwethaf, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu a mwy, ac rydym am adeiladu ar hynny er mwyn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Bydd y safonau, yn ogystal â strategaeth Caerdydd Ddwyieithog a chynllun gweithredu cysylltiedig i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd ac i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fywyd yn y ddinas, yn chwarae rôl sylweddol o ran cyflawni hyn.
"Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd yn ystod y daith i ddod yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog, fel sefydliad a ledled y ddinas. Fodd bynnag, bydd heriau o hyd ac rydym yn gweithio'n galed ym mhob rhan o'r awdurdod, a gyda phartneriaid hefyd, i hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg."