Cymuned yn dathlu Ramadan Iftar
Bydd y gymuned yn dathlu Ramadan Iftar, ymgasgliad i dorri ympryd, am yr eildro y tu allan i Neuadd y Ddinas ddydd Gwener (23 Mehefin).
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf, mae'r Cynghorydd Ali Ahmed ac aelodau'r gymuned Foslemaidd unwaith eto yn croesawu pawb yng Nghaerdydd i ymuno â nhw ar gyfer y dathliad rhwng 9pm a 10pm.
Yn rhan o Ramadan, mae Moslemiaid yn ymprydio yn ystod y dydd, gan dorri'r ympryd gyda Ramadan Iftar bob nos wrth i'r haul fachlud, ac mae'n arfer i wahodd cymdogion i ymuno yn y dathliadau.
Cefnogir y digwyddiad ddydd Gwener gan Gyngor Caerdydd ac fe'i cydlynir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth. Mae'r trefnwyr yn awyddus i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd, gan gynnwys pobl ddigartref a ffoaduriaid y ddinas, fwynhau pryd a bod yn rhan o Ramadan Iftar.
Meddai'r Cyng. Ali Ahmed: "Roeddem wrth ein boddau o rannu Ramadan Iftar gyda'r gymuned y tu allan i Neuadd y Ddinas ddydd Gwener diwethaf ac rydym yn falch bod cymaint o bobl wedi ymuno â ni yno. Mae Ramadan yn ymwneud â rhannu, gofalu, cefnogi a chyfrannu felly unwaith eto rydym yn gwahodd unrhyw un yn y ddinas i ymuno â ni gyda'r nos am fwyd a chyfeillgarwch."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Cafodd y digwyddiad hwn ei drefnu er mwyn bwydo'r digartref a chroesawu ffoaduriaid i'n dinas.Mae hefyd yn agored i unrhyw un a hoffai ddod draw i fanteisio ar y cyfle hwn i ddathlu popeth sy'n dod â'n dinas a'n cymunedau ynghyd.
"Byddaf yno ddydd Gwener ac rwy'n gobeithio y bydd y sawl sy'n gallu gwneud hynny yn ymuno â ni o flaen Neuadd y Ddinas i ddathlu'r gwerthoedd y mae pob un ohonom yn eu rhannu; cariad teuluol, cyfeillgarwch, bod yn gymdogion da, gofalu am eraill a dealltwriaeth."
Rhoddir gair o groeso a gweddi fer am 9pm, yna caiff detholiad o fwyd blasus wedi'i baratoi gan y gymuned ei weini i bawb ei fwynhau.