The essential journalist news source
Back
30.
May
2017.
Croeso Cymreig yn y brifddinas i gomisiynwyr iaith o ledled y byd

Mae comisiynwyr iaith o ledled y byd wedi cael croeso Cymreig arbennig i'r brifddinas. Cafodd y comisiynwyr eu hadlonni gan ddisgyblion 4 a 5 oed o ysgol gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd.

Bu'r comisiynwyr yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith a gynhaliwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Dywedodd pennaeth Ysgol Hamadryad, Mrs Rhian Carbis: "Rwyf i a chymuned gyfan yr ysgol yn eithriadol o falch o'r plant. Canon nhw mewn ffordd odidog gerbron cynulleidfa enfawr, ac oherwydd eu bod mor hyderus roedd yn hawdd anghofio dim ond grŵp bach o blant 4 a 5 oed ydyn nhw.

"Rwyf hefyd yn ymfalchïo'n fawr yn y ffaith y cafodd y gwahoddiad ei estyn i ni gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg. Rwy'n gwybod ei bod wedi ymddiddori yn y gwaith o sefydlu Ysgol Hamadryad, a hithau yng nghanol rhan o Gaerdydd sy'n llawn diwylliant ac amrywiaeth.

*Cafodd y plant amser anhygoel ac mae pob un ohonon ni'n edrych ymlaen at groesawu mwy a mwy o ddisgyblion drwy gatiau'n hysgol wrth i ni barhau i dyfu a pharatoi i symud i'n cartref newydd sbon yn Butetown.

"Mae ein blwyddyn gyntaf yn yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn i ddiolch i'r staff, yr holl rieni, y llywodraethwyr a'r gymuned gyfan am eu cymorth anhygoel. Diolch yn fawr."

Daeth y comisiynwyr o Ganada, Kosovo, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Catalonia, a Gwlad y Basg. Maen nhw'n rhannu nod gyffredin o ddiogelu hawliau siaradwyr, ac mae'r gynhadledd yn gyfle iddyn nhw i rannu profiadau a dysgu gan ei gilydd. Dyma'r tro cyntaf y mae'r gynhadledd wedi cael ei chynnal yng Nghymru.

Dywedodd Meri Huws: "Mae'r gynhadledd yn gyfle gwych i ddangos i'r byd bod y Gymraeg yn fyw a'i bod yn ffynnu, a bod y Gymraeg ar gynnydd yma yng Nghaerdydd. Gŵn y bydd y comisiynwyr, drwy gerdded yn y ddinas, yn gweld ac yn clywed y Gymraeg bobman o'u cwmpas - ar arwyddion ffyrdd, mewn siopau a chaffis, ac mewn sgyrsiau rhwng pobl.

"Allwn i ddim meddwl am ffordd well o arddangos hyfywedd yr iaith na thrwy wahodd disgyblion o'r ugeinfed a'r ddiweddaraf ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd i'w croesawu i Gymru. Roedd yn ardderchog yn wir, a chafodd ei werthfawrogi'n fawr gan y comisiynwyr."