The essential journalist news source
Back
8.
May
2017.
Annog myfyrwyr i garu eu cartref a Gwaredu'r Gwastraff!

Annog myfyrwyr i garu eu cartref a Gwaredu'r Gwastraff!


Mae myfyrwyr sy'n symud allan o neuaddau preswyl a lletyau preifat yn cael eu hannog i ddangos eu bod yn caru eu cartref a Gwaredu'r Gwastraff.

Cynllun ailgylchu ac ailddefnyddio penigamp Cyngor Dinas Caerdydd yw Gwaredu'r Gwastraff ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae'n helpu myfyrwyr i glirio eu sbwriel ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.Y nod yw sicrhau bod modd symud allan o letyau i fyfyrwyr yn ddidrafferth gan adael ein cymunedau'n lân ac yn daclus.

Yn ogystal â gwasanaethau casglu gwastraff arferol, eleni mae'r cynllun yn cynnwys:


• 23 o Fannau Casglu Ardal Werdd ar safleoedd prifysgolion ledled y ddinas lle mae modd cyfrannu dillad, bwyd (heb ei agor, o fewn y dyddiad, mewn tuniau, pacedi, jariau ac ati), eitemau trydanol bach, llyfrau, CDs/DVDs ac eitemau'r gegin (platiau, mygiau, teclynnau, sosbenni ac ati). 
 
• 25 o fanciau ailddefnyddio'r YMCA sy'n casglu dillad, esgidiau, bagiau, tecstilau, eitemau trydanol bach, llyfrau, a CDs/DVDs.
• Mae modd talu i drefnu gwasanaethau casglu unigol ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos drwy ffonio (029) 2087 2087 ymlaen llaw.

Yn ogystal â hynny mae modd i fyfyrwyr ddewis defnyddio cyfleusterau fel Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Heol Wedal a'n gwasanaeth casglu gwastraff swmpus rhad ac am ddim.

Mae cyngor ar bob un o'r opsiynau hyn ar-lein ar www.cardiffdigs.co.uk a bydd myfyrwyr yn Cathays, Plasnewydd a Gabalfa hefyd yn cael ymweliad gan Swyddogion Gorfodi a Hyrwyddwyr Amgylcheddol sy'n gwirfoddoli o'r gymuned fyfyrwyr a fydd yn helpu i esbonio'r cynllun.

Bydd elusen Fareshare Cymru yn dosbarthu'r holl fwyd a gaiff ei gasglu i elusennau a grwpiau cymunedol, a chaiff ei weddnewid yn brydau maethlon i bobl leol sy'n agored i niwed. Ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, caiff nwyddau eu hailwerthu yn rhan o ymgyrch Gwaredu'r Gwastraff. Bydd hynny'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr sy'n dod yn ôl a myfyrwyr newydd i brynu offer cegin ac eitemau trydanol a gyfrannwyd am brisiau rhad. Y llynedd cafodd £2000 ei godi drwy waith ailwerthu ar gyfer ein helusen bartner, YMCA Caerdydd.

Dywedodd Emma Robson, Swyddog Cyswllt Myfyrwyr "Bob blwyddyn mae'r gymuned fyfyrwyr yn ymateb yn wych i ymgyrch ‘Gwaredu'r Gwastraff'. Y llynedd cafodd cyfanswm enfawr o 26.5 o dunelli o eitemau i'w hailddefnyddio eu cyfrannu. Roedd yn fuddiol i elusennau lleol a chyfrannodd at gadw strydoedd Caerdydd yn daclus."

"Drwy weithio'n agos gyda phrifysgolion y ddinas, neuaddau preswyl preifat, landlordiaid a'n helusennau partner YMCA a Fairshare Cymru byddwn unwaith eto'n cynnig ystod o wahanol opsiynau i fyfyrwyr sy'n symud allan ar ddiwedd y tymor i waredu eu gwastraff yn gyfrifol. Rydym yn gobeithio y cawn ymateb gwych eto yn ystod yr ymgyrch eleni."