The essential journalist news source
Back
25.
April
2017.
Ymgyrch Carwch Eich Cartref y Cyngor yn erbyn sbwriel yn dwyshau
Ymgyrch Carwch Eich Cartref y Cyngor yn erbyn sbwriel yn dwyshau
Casglwyd dros saith tunnell ychwanegol o sbwriel a gwastraff o dair rhan o Gaerdydd pan lanhawyd 38 o strydoedd yn ddwys.

Roedd yr ymgyrch lanhau yng Nghyncoed, y Mynydd Bychan a Phenylan yn rhan o ymgyrch Carwch eich Cartref Cyngor Dinas Caerdydd sydd wedi gwaredu dros 130 tunnell o sbwriel ychwanegol o strydoedd y brifddinas, ar ben y gweithrediadau glanhau arferol, ers i'r cynllun ddechrau'r hydref diwethaf.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a Cadwch Gymru'n Daclus er mwyn cynnal y fenter hon, sydd â’r nod o wneud pobl yn falch o'u hardaloedd lleol.

Yn rhan o’r sesiwn lanhau ddiweddaraf, glanhawyd 432 o’r 471 o ylïau yng Nghyncoed, y Mynydd Bychan a Phenylan, trwsiwyd 14 nam ar balmentydd a chymerwyd 37 cam gorfodi.

Meddai Matt Wakelam, Rheolwr Gweithredol dros Seilwaith a Gweithrediadau Cyngor Dinas Caerdydd:“Mae’r gwaith sy’n cael ei gwblhau yn rhoi cymorth sydd ei angen yn fawr er mwyn glanhau ein cymunedau.

“Mae’r gwaith yma’n rhan o ymgyrch Carwch Eich Cartref y Cyngor ac mae’n cefnogi’r gwelliannau sydd ar waith ledled y ddinas.”

Ychwanegodd: “Ond mae’n drueni bod yna bobl sydd yn dal i feddwl bod gollwng sbwriel yn iawn.  Byddwn yn dal ati i floeddio’r neges nad yw gwaredu gwastraff yn anghyfrifol yn dderbyniol o gwbl.”